Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
7 Tachwedd 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5362
------
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad i nodi blwyddyn ers marwolaeth Carl Sargeant. Ar ran holl Aelodau’r Cynulliad a staff, cydymdeimlodd y Llywydd yn ddwys â Jack Sargeant a’i deulu.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 2, 4-8 a 10-14. Tynnwyd cwestiynau 3 a 9 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 8 ac 11 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1, 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Llywydd am 14.39 oherwydd i ddiffyg ar y meicroffonau effeithio ar y Siambr. Ailymgynullodd y cyfarfod am 15.30. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailymgynnull.
Dechreuodd yr eitem am 15.53
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â hyfforddi peilotiaid o Saudi Arabia yn RAF y Fali?
Dechreuodd yr eitem am 16.00
Gwnaeth Bethan Sayed ddatganiad am - Cofio Carl Sargeant.
Gwnaeth Jane Hutt ddatganiad am - Menywod yn y Rhyfel Byd 1af.
Gwnaeth David Rees ddatganiad am 36 mlynedd o redeg ras 10k Richard Burton.
Dechreuodd yr eitem am 16.06
NDM6857
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau
Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn
aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif
Weinidog.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6852 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2018
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.56
NDM6848 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi casgliadau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 'Brexit a Chydraddoldebau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6854 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf.
2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918.
3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru er mwyn sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
35 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru a dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
3 |
13 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu ansawdd tai a gofal iechyd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
18 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
NDM6854 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf.
2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918.
3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.
4. Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru a dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
3 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.35
Dechreuodd yr eitem am 18.37
NDM6853 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cymru wledig - economi i'w hyrwyddo.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2018